Yn gyflymach, yn fwy diogel, yn haws. Mewngofnodi gyda Google gydag un tap.
Defnyddiwch eich Cyfrif Google i wneud cofrestru a mewngofnodi yn fwy diogel ac yn symlach, fel y gallwch dreulio llai o amser ar enwau defnyddwyr a chyfrineiriau a mwy o amser ar yr apiau a'r gwefannau rydych yn mwynhau eu defnyddio.
-
Mewngofnodi'n ddi-dor
Creu cyfrifon newydd yn hawdd ac yn ddiogel neu fewngofnodi i'ch hoff apiau a gwefannau heb y drafferth o enwau defnyddiwr a chyfrineiriau.
-
Defnyddio unrhyw ddyfais
Mwynhau profiad mewngofnodi llyfn a chyfarwydd ar draws yr holl borwyr a dyfeisiau rydych yn eu defnyddio, gan gynnwys iOS ac Android.
-
Rheoli eich cysylltiadau
Cadw rheolaeth ar eich apiau a'ch gwefannau trwy rannu gwybodaeth cyfrif yn ddiogel megis eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch llun proffil, a thrwy reoli mynediad at apiau Google megis Drive.
-
Byddwch yn fwy diogel gyda Google
Ffarwelio â chyfrineiriau sydd wedi'u hailddefnyddio a mewngofnodi gwan. Mae defnyddio'ch Cyfrif Google i fewngofnodi'n ddiogel yn golygu dibynnu ar lai o apiau a gwefannau i storio'ch cyfrineiriau, fel bod eich data'n aros yn fwy diogel.
Sut i ddefnyddio Mewngofnodi gyda Google
Cliciwch ar y botwm Mewngofnodi gyda Google ar yr ap neu'r wefan
Dewiswch Gyfrif Google i'w ddefnyddio
Os mai dyma'r tro cyntaf i chi, rhannwch yr enw, cyfeiriad e-bost a llun
proffil o'ch Cyfrif Google i fewngofnodi i'r ap neu'r gwasanaeth
Mae'n bosib y bydd rhai apiau'n gofyn am wybodaeth arall, megis eich
cyfeiriad neu rif ffôn, y gallwch ei rheoli unrhyw bryd yng ngosodiadau
eich Cyfrif Google
Parhau i'r ap neu'r wefan
Dyna ni, nawr rydych chi wedi mewngofnodi!
Y tro nesaf, gallwch fewngofnodi eto yn hawdd gan ddefnyddio'r un Cyfrif
Google
-
Diogel yn ddiofyn
Rydych yn haeddu proses mewngofnodi gyflym a diogel. Mae Mewngofnodi gyda Google yn helpu i ddiogelu rhag achosion o dorri data trydydd parti trwy gyfyngu ar faint o leoedd y mae eich gwybodaeth yn cael ei storio ar-lein.
-
Chi sy'n rheoli
Rheolwch y wybodaeth rydych yn dewis ei rhannu â phob ap a gwefan trydydd parti, a diweddarwch eich gosodiadau unrhyw bryd o'ch Cyfrif Google.
-
Preifat o’r cychwyn
Nid yw Google yn defnyddio gwybodaeth na gweithgarwch o Mewngofnodi gyda Google ar gyfer hysbysebion nac unrhyw gynnyrch Google arall. Rydym yn cynnal yn llym arferion data cyfrifol sydd wedi'u cynllunio i barchu'ch preifatrwydd.